CEFNDIR A HANES
Ers ei sefydlu gyntaf ym Miwmares gan ddau wr o'r un anian ar Awst 28ain 1953, mae Clwb Camerau Biwmares, fel y gelwid yr amser hynny, wedi mwynhau ystod eang o fannau cyfarfod ac atgofion dros y blynyddoedd. Ar ol cyfarfod yn wreiddiol yng nghartref un o'r sylaenwyr yn Iscoed, Biwmares, penderfynwyd y dylid chwilio am fan cyfarfod mwy addas, ac ar ol di-ystyrru gwestai, rhag ffurfio'r math anghywir o glwb, dewisiwyd yr hen neuadd Eglwys Gatholig ynStryd yr Eglwys a fu'n gartref i'r clwb am ddwy flynedd.
Erbyn 1958 daeth hen Labordy Gemeg Ysgol David Hughes yn fan cyfarfod. Yn ol y son, fodd bynnag am ddeg o'r gloch tarodd gofalwr yr ysgol y peipiau gwres canolog er mwyn dirwyn y cyfarfodydd i ben, a hynny'n destun embaras mawr pan roedd unrhyw ddarlithydd gwadd yn ymweld!
Erbyn 1967, ar ol bod yn y Ganolfan Gymdeithasol ym Miwmarres am saith mlynedd, terfynwyd pob gweithgaredd gan y cyngor tref , o ganlyniad i'r angen am atgyweirio sylweddol nad oedd neb yn barod i'w ariannu a daethpwyd o hyd i bencadlys dros dro yn Ysgoldy y Capel Wesleaidd ym Mhorthaethwy. Dros y blynyddoedd, bu sawl safle yn y dref yn gartref i'r clwb, o'r Capel Mawr (1971 - 1974), i Ysgoldy yr Eglwys Bresbyteraidd Saesneg (1975), ond yn 1988 symudwyd i'w safle bresennol yn Neuadd Eglwys Gatholig Santes Ann yn Dale Street.
BACKGROUND AND HISTORY
Since its early establishment in Beaumaris by two like-minded men on August 28th 1953, The Beaumaris Camera Club as it was then called, has enjoyed a wide range of meeting places and memories over the decades. After initially meeting at one of the founder's houses in Iscoed, Beaumaris, it was decided that a suitable meeting place was required, and after rejecting hotels, for the fear of creating the wrong sort of club, the old Catholic Church Hall in Church Street was its home for two years.
By 1958 the old David Hughes School Chemistry Laboratory became the meeting place. Allegedly, the caretaker of the school produced a banging noise on the central heating pipes at 10pm in order to hasten the ends of the meetings, which was highly embarrassing if a visiting lecturer was trying to finish a talk!
By 1967 after being in the Social Centre in Beaumaris for seven years, activities were terminated by the town council, owing to the need of extensive repairs which nobody was prepared to fund, and temporary headquarters were found in the Wesleyan Chapel Schoolroom in Menai Bridge. Over the years, several sites in the town have been home to the club ranging from the Capel Mawr (1971- 1974), the English Presbyterian Schoolroom (1975), but in 1988 it moved to its present site at St Anne's Catholic Church Hall in Dale Street.